Offerynnau Statudol sydd ag Adroddiadau Clir

14 Ionawr 2019

SL(5)298 – Rheoliadau Paneli Maethu (Sefydlu a Swyddogaethau) (Cymru) 2018

Gweithdrefn: Negyddol

The purpose of these Regulations is to impose requirements on fostering services providers (both local authorities and independent providers) in relation to the establishment and functions of fostering panels.  They are intended to replace and update the requirements in Part IV of The Fostering Services (Wales) Regulations 2003 (‘the 2003 Regulations’).     

The Regulations broadly replicate the 2003 Regulations, but introduce two significant changes:

•        the establishment of a central list of people who are considered suitable to sit on a fostering panel, and from which fostering panel members may be drawn

•        the introduction of a two-stage process for the assessment of prospective foster parents. 

To enable this new approach, legal powers contained in the Social Services and Well-being (Wales) Act 2014 and the Regulation and Inspection of Social Care (Wales) Act 2016 are used.

Rhiant-Ddeddf: Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014

Fe’u gwnaed ar: 10 Rhagfyr 2018

Fe’u gosodwyd ar: 11 Rhagfyr 2018

Yn dod i rym ar: 29 Ebrill 2019

 

SL(5)292 – Rheoliadau Gwasanaethau Lleoli Oedolion (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) 2019

Gweithdrefn: Cadarnhaol

Mae Rhan 1 o Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 (“y Ddeddf”) yn cyflwyno system newydd o reoleiddio gwasanaethau gofal a chymorth yng Nghymru, gan ddisodli’r un a sefydlwyd o dan Ddeddf Safonau Gofal 2000.

Mae’r Ddeddf yn cyflwyno cysyniad newydd o “gwasanaethau rheoleiddiedig” ac mae adran 2 o’r Ddeddf yn diffinio “gwasanaeth rheoleiddiedig” i gynnwys gwasanaeth lleoli oedolion. Mae paragraff 6 o Atodlen 1 i’r Ddeddf yn diffinio “gwasanaeth lleoli oedolion” fel gwasanaeth a gynhelir (pa un ai er elw ai peidio) gan awdurdod lleol neu berson arall at ddibenion lleoli oedolion gydag unigolyn yng Nghymru o dan gytundeb gofalwr (ac mae’n cynnwys unrhyw drefniadau ar gyfer recriwtio, hyfforddi a goruchwylio unigolion o’r fath).

Mae’r Rheoliadau hyn yn gosod gofynion ar ddarparwyr gwasanaethau mewn perthynas â gwasanaethau lleoli oedolion, gan gynnwys gofynion o ran safon y gofal a’r cymorth sydd i’w darparu i unigolyn a leolir o dan gytundeb gofalwr. Mae paragraff 6 o Atodlen 1 i’r Ddeddf yn diffinio “cytundeb gofalwr” fel cytundeb ar gyfer darparu gan unigolyn lety yng nghartref yr unigolyn ynghyd â gofal a chymorth ar gyfer hyd at dri oedolyn.

Rhiant-Ddeddf: Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016

Fe’u gwnaed ar:

Fe’u gosodwyd ar: 10 Rhagfyr 2018

Yn dod i rym ar: 29 Ebrill 2019